Mae digwyddiadau’n cael eu cynnal ar draws Cymru a gwledydd Prydain heddiw i godi arian at elusen Plant Mewn Angen.

Bob blwyddyn mae’r elusen yn ceisio curo eu cyfanswm blaenorol – y llynedd cafodd £37 miliwn ei godi ar noson Plant Mewn Angen yng ngwledydd Prydain.

Mae’r arian yn mynd at gynnal prosiectau i helpu plant sydd dan anfantais.

Yng Nghymru mae 159 o brosiectau yn cael eu cefnogi gan Blant mewn Angen, a’r llynedd fe gafodd £9.2 miliwn ei wario ar helpu 20,000 o blant o dan anfantais.

Esboniodd llefarydd ar ran BBC Plant Mewn Angen wrth golwg360 fod Cymru’n derbyn 7% o gyfanswm yr arian sy’n cael ei godi ar draws gwledydd Prydain.

“Mae dosraniad yr arian yn cael ei benderfynu wrth edrych ar gyfuniad o bethau, gan gynnwys data tlodi plant a phoblogaeth, ac mae’r dosraniad i Gymru yn 7% o gyfanswm y Deyrnas Unedig.”

Mae mwy na 2,400 o brosiectau yn cael eu cefnogi ar draws gwledydd Prydain ar hyn o bryd.

Teyrnged i Terry

Ers sefydlu Plant Mewn Angen yn 1980, mae mwy na £840 miliwn wedi’i godi i helpu plant ar draws gwledydd Prydaind.

Bydd y rhaglen deledu flynyddol yn cael ei chynnal am 7.30 heno ar BBC One gyda darllediadau byw o Abertawe.

Bydd hefyd teyrngedau i Terry Wogan a fu farw ym mis Ionawr ac a gyflwynodd y rhaglen am 35 mlynedd.