Guto Bebb
Yn ôl Is-Ysgrifennydd Cymru, mae gan ogledd Cymru “gymaint i’w gynnig” i Bwerdy’r Gogledd ag sydd gan y pwerdy i’w gynnig i drigolion ochr hon o Glawdd Offa.

Pwerdy’r Gogledd yw’r cynllun a gafodd ei greu gan y cyn-Ganghellor, George Osborne, i hybu twf economaidd yng Ngogledd Lloegr.

Mae’r cynllun yn cynnwys gwelliannau i gysylltiadau trafnidiaeth, buddsoddiad mewn gwyddoniaeth ac arloesedd a datganoli pwerau i ddinasoedd.

Mewn cyfweliad â golwg360, dywedodd Guto Bebb fod cynlluniau fel Wylfa Newydd ar Ynys Môn yn mynd i gael effaith economaidd y tu hwnt i Gymru ac mor bell â gogledd-orllewin Lloegr.

“Dydw i ddim yn derbyn y ffaith bod gogledd-orllewin Cymru efallai, ddim yn mynd i fanteisio o fod yn rhan o bwerdy’r gogledd – i’r gwrthwyneb,” meddai Guto Bebb.

Ychwanegodd AS Aberconwy fod nifer y swyddi a’r arian sy’n dod i ogledd Cymru o achos y Pwerdy yn “dibynnu” sut mae’r gogledd yn “cymryd mantais” o’r cynllun.

“Yr hyn rydan ni’n ceisio gweithio tuag ato yw sicrhau ein bod ni’n cael cynllun twf ar gyfer Gogledd Cymru sy’n clymu i mewn i Bwerdy’r Gogledd.

“Yr hyn rydan ni’n ei weld ymysg awdurdodau lleol gogledd Cymru yw bod yna frwdfrydedd i gydweithio efo awdurdodau lleol a chynlluniau datblygu economaidd yng ngogledd-orllewin Lloegr.

“Er enghraifft, rydan ni’n gwybod yn barod os bydd yna ddatblygiad yn Wylfa, mi fydd hwnnw’n ddatblygiad fydd yn cael effaith anferthol yn economaidd ar ogledd Cymru ond hefyd ar ogledd-orllewin Lloegr.

“Yn yr un un modd, mae yna fusnesau o ogledd Cymru sy’n ennill eu bara menyn yn gyson drwy weithio ym Mhwerdy’r Gogledd.

“Felly’r hyn rydan ni eisiau sicrhau ydy bod yna ddatblygiadau ar draws gogledd Cymru… i sicrhau bod ganddon ni fynediad hawdd at farchnadoedd gogledd-orllewin Lloegr.”

Bydd y datblygiadau hynny yn gorfod dod “o’r llawr”, yn ôl Guto Bebb, gyda busnesau ac ardaloedd yn mynd at Lywodraeth Prydain i gyflwyno achos am gyllid.

“Nid mater o San Steffan yn dweud: ‘Dyma’r gyllideb, be ydach chi eisiau gwneud efo fo?’ I’r gwrthwyneb llwyr.

“Yr hyn rydan ni’n ei ddweud ydy: ‘Be ydy’ch blaenoriaethau chi a rhowch yr achos i ni’.

“Ac os ydy’r achos hwnnw’n achos cryf, mi fydd Llywodraeth San Steffan a Llywodraeth Caerdydd yn gallu cefnogi cynllun twf sy’n berthnasol yma yng ngogledd Cymru.”

‘Dim achos’ i ddatganoli’r gyfraith

Bydd pwerau dŵr yn cael eu datganoli i Gymru fel rhan o Fesur Cymru. Ond nid yw Guto Bebb yn rhagweld y bydd hyn yn agor y drws ar ddatganoli grym ym maes cyfraith a threfn.

“Mae’r dystiolaeth sydd wedi cael ei gyflwyno yn dangos nad oes yna fantais yn y tymor byr i wneud hynny,” meddai.

“Does yna ddim cytundeb ymysg y gwrthbleidiau ynghylch datganoli cyfraith a threfn, dydy o ddim wedi bod yn sail yn rhengoedd Llafur er enghraifft yn Nhŷ’r Cyffredin na Thŷ’r Arglwyddi.”

Ymadawiad Dafydd Êl

Wrth gael ei holi am ei farn ar ymadawiad Dafydd Elis-Thomas o Blaid Cymru, fel un oedd yn arfer bod yn aelod o’r Blaid ei hun, dywedodd Guto Bebb na fyddai’n ystyried dychwelyd at Blaid Cymru.

“Mae Dafydd Elis-Thomas yn etholwr i fi ac mae gen i lot fawr o amser iddo fo, mae ei gyfraniad e dros y blynyddoedd wedi bod yn anferthol.

“Ond mater i Blaid Cymru ydy trafod trefniadau mewnol i’w perthynas nhw hefo’i chyd-aelodau nhw a dim lle fi fel aelod o’r Blaid Geidwadol ydy cynnig sylw ar yr hyn sydd wedi digwydd yn fewnol o fewn Plaid Cymru.

“Na fyswn [ddim yn dychwelyd at Blaid Cymru], mae gen i ofn.”