Liz Saville Roberts (Llun Plaid Cymru)
Mae Aelod Seneddol wedi apelio am gadw un o ardaloedd mwya’ Cymraeg Cymru yn rhan o’r un etholaeth ag ardaloedd tebyg.

Fe fyddai argymhellion i newid y ffiniau’n gwneud drwg i gymunedau Cymraeg, meddai AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts.

Mae hi’n ymgyrchu i gadw ardal Y Bala yn rhan o’r un etholaeth â gweddill Dwyfor Meirionnydd – mae’r Comisiwn Ffiniau Etholiadol wedi argymell ei rhoi gyda rhannau o Bowys.

Chwalu undod hanesyddol  

“Byddai cynnig y Comisiwn yn chwalu undod hanesyddol Meirionnydd,” meddai Liz Saville Roberts wrth gyfarfod o’r Comisiwn yn Wrecsam.

Roedd mwy nag 80% o bobol yr ardal yn siarad Cymraeg a mudiadau Cymraeg yn gry’ yno, meddai.

“Mae ardal Y Bala a Phenllyn wedi bod yn rhan annatod o Wynedd ers canrifoedd ac mae’n rhannu diwylliant a defnydd o’r iaith Gymraeg sy’n amlwg yn y Sir.

“Apeliaf yn daer i chi beidio a rhannu’r rhan hwn o Gymru ble mae’r Gymraeg yn gryf i osgoi’r effaith andwyol ar ein cymunedau Cymraeg.”

Yr argymhellion

Fe fydd argymhellion y Comisiwn yn golygu hollti etholaeth Dwyfor Meirionnydd, gyda Dwyfor, Gorllewin Meirionnydd a Chonwy, cyn belled â Dinbych yn ffurfio un etholaeth fawr ac ardal Y Bala yn ymuno gyda etholaeth newydd yn cynnwys Sir Drefaldwyn, ardal Corwen, Rhuthun a Llangollen.

Mae’r newidiadau’n rhan o ymgais i dorri ar nifer etholaethau seneddol gwledydd Prydain, gyda’r gostyngiad mwya’ yng Nghymru, o 40 sedd i 29.

“Mae teimladau cryf yn lleol am effeithiau y newidiadau arfaethedig yn ardal Penllyn a dylem sicrhau bod y Comisiwn yn derbyn darlun clir o’r sefyllfa bresennol a manteision ieithyddol i’r ardal o aros o fewn sir Gwynedd,” meddai Liz Saville Roberts.