Difrod yng Nghlarach (Llun: Thomas Scarrott)
Mae gwyntoedd cryfion ar raddfa corwynt wedi taro Aberystwyth y bore yma, gyda’r brifysgol yn rhybuddio staff a myfyrwyr i fod yn wyliadwrus.
Mae rhai adeiladau wedi’u difrodi a choed wedi dymchwel mewn mannau yn dilyn gwyntoedd o hyd at 94 milltir yr awr.
Mae’r Heddlu wedi cau sawl ffordd yn y dref, gan gynnwys Stryd y Farchnad, Heol y Wig, Ffordd y De o achos bod teils toeon yn disgyn i’r llawr.
Mae Rhiw Penglais a’r ffordd y tu allan i Aberystwyth, rhwng Clarach a Borth, hefyd wedi cau o achos bod coeden wedi disgyn i’r ffordd.
Mae’r gwynt wedi gostegu erbyn hyn i tua 40 milltir yr awr ond mae rheolwyr Prifysgol Aberystwyth yn rhybuddio staff a myfyrwyr i gymryd gofal.
Mae disgwyl llanw uchel yn y môr am 10 o’r gloch heno ac mae rhybudd i bawb gadw’n glir a bod yn ofalus.
Mae’r Brifysgol wedi rhybuddio hefyd ei bod yn cynnal arolygiad llawn o’i holl safleoedd a’i bod yn bosib y bydd rhaid iddyn nhw gau rhai adeiladau.
Canslo darlithoedd
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi penderfynu canslo darlithoedd ar gampws Penglais a Llanbadarn am weddill y dydd o ganlyniad i’r tywydd gwael.
Mae’r adeiladau / gwasanaethau canlynol ar gau am weddill y dydd hefyd.
- Yr Hen Goleg
- Y Ganolfan Chwaraeon
- IBERS Bach
- Brynamlwg
- Llyfrgell Thomas Parry (Llanbadarn)
- Blas Padarn (Llanbadarn)
Mae’r Brifysgol yn annog myfyrwyr i fynd yn ôl at eu llety cyn gynted â phosib ac i aros mewn a chadw llygad ar eu he-bost.
Mae darlithoedd ar gampws Gogerddan, y tu allan i Aberystwyth, yn parhau fel arfer.
Mae staff prif gampysau’r Brifysgol, Penglais a Llanbadarn yn cael eu hannog i fynd adre hefyd ac i fod yn ofalus ar y ffordd wrth deithio nôl.
To tŷ ar bromenâd Aberystwyth wedi ei ddifrodi. (Llun: Anna Jones)