Siwan Dafydd gyda'r cyn-Lywydd, Dan Rowbotham
Siwan Fflur Dafydd o Landeilo, Sir Gaerfyrddin fydd Llywydd newydd y mudiad ieuenctid yn 2017.

Fe fydd Siwan Dafydd hefyd yn Gadeirydd fforwm ieuenctid genedlaethol yr Urdd, Bwrdd Syr IfanC, am y flwyddyn.

“Mae’n fraint cael bod yn llywydd ar fudiad sy’n rhoi gymaint o gyfleoedd gwych i bobol ifanc,” meddai Siwan Dafydd, sydd ar ei hail flwyddyn yn astudio hanes ym Mhrifysgol Birmingham, ac yn aelod brwd o Gymdeithas Gymraeg Birmingham lle mae hi’n gobeithio helpu sefydlu Aelwyd newydd yr Urdd.

“Un o’r pethau gorau am yr Urdd yw’r ffaith ei bod yn cydnabod bo gennym ni fel pobl ifanc lais, a bod sylw yn cael ei roi i’r llais hwnnw, oherwydd ar ddiwedd y dydd, heb y bobl ifanc ni fyddai’r Urdd yn bodoli.

“Un peth yr hoffwn ei weld yn digwydd yw bod yr Urdd yn cymryd rhan flaenllaw mewn sgwrs am sefyllfa iechyd meddwl pobol ifanc Cymru,” meddai. “Mae hyn yn fater hynod bwysig y mae gen i deimladau cryf yn ei gylch.”

Gadael Ewrop

Mae sawl her yn wynebu pobol ifanc Cymru heddiw, meddai Siwan Dafydd – a rhai yn codi yn sgil gadael Ewrop.

“Credaf ei bod hi’n allweddol ein bod fel pobol ifanc yn sefyll yn gadarn yn erbyn unrhyw ragfarn neu feirniadaeth ar sail hîl neu ryw,” meddai, “ac yn mynnu bod pawb yn cael eu trin yn gyfartal â chyda pharch.

“Yn fy marn i mae’r Urdd yn fudiad pwysig a all uno a thynnu pobl ifanc at ei gilydd heb wahaniaethu ar sail unrhyw beth.”