Mae deg o bobol yn yr ysbyty yn dilyn tân yn ystod oriau mân y bore mewn ffermdy yn Sir Gaerfyrddin.

Fe gafodd ymladdwyr tân o Landeilo, Rhydaman, Y Tymbl a Llanymddyfri eu galw i’r eiddo ger pentref Salem, Llandeilo am 3.10yb ddydd Iau.

Roedd y tŷ wedi cael ei wagio cyn i’r Gwasanaeth Tân gyrraedd ond cafodd deg o bobol, y mae’n debyg sy’n aelodau o’r un teulu, eu cludo i’r ysbyty gan y Gwasanaeth Ambiwlans i drin effeithiau anadlu mwg.

Mae’r tân wedi’i ddiffodd erbyn hyn ac mae ymchwiliad ar droed.