Mae ynys bellenig â chaer yn Sir Benfro ar werth am £550,000 – chwarter miliwn yn rhatach nag oedd hi pan brynwyd hi ddiwetha’.

Mae’r pris sy’n cael ei hawlio am ynys Thorn bron i £250,000 yn llai na’r pris a gafodd ei dalu amdani yn 2011, a hynny am fod yr adeilad wedi dirywio oherwydd y tywydd ar hyd y blynyddoedd.

Cafodd y gaer – sydd erbyn heddiw â deg ystafell wely – ei chodi yn y 1850au er mwyn gwrthsefyll y Ffrancwyr wrth iddyn nhw geisio glanio yn Aberdaugleddau. Ond fe gafodd ei droi’n westy yn 1947, ac roedd yn adeilad cofrestredig Gradd 2 erbyn 1996.

Bum mlynedd yn ddiweddarach, cafodd ei brynu gan gwmni gwestai Von Essen, ond ddaeth eu cynlluniau byth i fod.

Cafodd ei werthu unwaith eto yn 2011 ar ôl i gwmni Von Essen fynd i’r wal, a hynny gan gwmni Kent Mushrooms sy’n berchen ar sawl safle hanesyddol yn Lloegr a’r perchennog yn ‘gasglwr ceyrydd’.