Senedd Ewrop
Mae arolwg wedi canfod bod rhai o drigolion Cymru yn credu bod Elwyn Davies – enw dychmygol er pwrpas ymchwil – yn un o’r Aelodau Seneddol Ewropeaidd sy’n eu cynrychioli.

Mewn dewis o restr o enwau, oedd yn cynnwys pedwar ASE go iawn Cymru – Nathan Gill, Jill Evans, Derek Vaughan a Kay Swinburne – fe wnaeth Elwyn Davies ennill mwy o bleidleisiau na phob un, oni bai am Nathan Gill.

O’r 3,272 o bobol a holwyd dros y we ym mis Mawrth eleni, roedd 16% yn gwybod bod Nathan Gill yn ASE dros Gymru, 11% yn gwybod am rol Jill Evans, 9% am Derek Vaughan a 6% am Kay Swinburne.

Roedd 12% yn credu bod ‘Elwyn Davies’ yn eu cynrychioli.

Argraff

Yr Athro Roger Scully o Brifysgol Caerdydd oedd un o’r ymchwilwyr y tu ôl i Astudiaeth Etholiad Cymreig. Fe ddywedodd bod y canlyniadau yn dangos nad yw ASEau Cymru wedi gwneud “llawer o argraff ar y cyhoedd”.

“Nid yw’n syndod bod Nathan Gill ar frig y rhestr, o ystyried ei broffil uwch yn y Cynulliad. Ond ni chafodd yr un o’r ASEau eraill eu dewis o flaen y cymeriad chwedlonol ‘Elwyn Davies’ – a does dim angen i mi ymhelaethu ar ei gyfraniad gwleidyddol o.

“…’dyw ymdrechion pedwar o gynrychiolwyr cyfredol Cymru yn yr Undeb Ewropeaidd ddim wedi gwneud llawer o argraff ar y cyhoedd. Roedd llai na 20% o’n sampl yn medru enwi ASE go iawn o’r dewis oedd o’u blaenau.”