Joyce Watson AC
Mae dynion yng Nghymru yn cael eu hannog i siarad yn gyhoeddus am drais yn erbyn merched, mewn ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o’r pwnc.

Mae’r ymgyrch gan Sefydliad y Merched Cymru yn rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol y Rhuban Gwyn,  sy’n hyrwyddo’r neges o beidio â chyflawni, goddef nac aros yn dawel am drais yn erbyn menywod.

Bydd y diwrnod yn cael ei nodi gyda thrafodaeth yn y Senedd a gwylnos ar risiau’r Cynulliad ar Dachwedd 25.

Arwain

Fe gafodd yr ymgyrch ei sefydlu gan Joyce Watson AC un ar ddeg mlynedd yn ôl. Dywedodd bod Cymru yn wlad sydd yn “arwain y ffordd” wrth godi ymwybyddiaeth am drais yn erbyn merched.

“Yn awr, yn fwy nag erioed, mae gwir angen pwysleisio’r agenda parch, tra bod cymaint o anoddefgarwch yn cael ei fynegi gan ffigyrau cyhoeddus ar draws y byd.

“Mae gan bawb yr hawl i fyw heb ofn, a chroesawaf weithrediad Llywodraeth Cymru trwy ddeddfu i warchod dioddefwyr a’u plant, ac apwyntio Cynghorydd Cenedlaethol i arwain datblygwyr polisi ar draws Cymru.

“Mewn sawl ffordd, mae Cymru nawr yn arwain y ffordd, ond mae llawer mwy i wneud”.