Mae’r ffigyrau gwaith diweddara’ yn dangos bod 41,000 yn fwy o bobol yn gweithio yng Nghymru o’i gymharu â’r cyfnod hwn y llynedd.

Wrth gyhoeddi ei adroddiad, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud bod 1.459 miliwn o drigolion Cymru mewn swyddi erbyn hyn – sy’n 73.1% o’r rhai sy’n gymwys i weithio.

Mae’n golygu bod lefel cyflogaeth ar ei ucha’ ers decharu cadw cofnodion.

Ond mae lefel diweithdra wedi codi o 3,000 dros y chwarter diwetha’ i 67,000 – sef 4.4%.

Yng ngwledydd Prydain ar y cyfan, cafodd 49,000 yn fwy o bobol waith yn y chwarter d’wythaf ac mae lefel diweithdra wedi syrthio o 37,000 i 1.6 miliwn.

Perfformiad

Wrth ymateb i’r ffigyrau, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: “Flwyddyn ar ôl blwyddyn mae Cymru yn perfformio’n well na gweddill gwledydd Prydain o ran gwelliannau yn y ffigyrau cyflogaeth.

“Mae diweithdra yng Nghrymu, sef 4.4%, yn is nag yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon ac yn parhau yn is na’r cyfartaledd yng ngwledydd Prydain”.