Protest Cymdeithas yr Iaith y tu allan i gaffi Costa Coffee Caernarfon Llun: Cymdeithas yr Iaith
Mae protestwyr wedi bod yn annog cwsmeriaid i beidio â defnyddio caffi Costa Coffee yng Nghaernarfon ac i gefnogi busnesau lleol Cymreig mewn gwrthdystiad yn y dref heddiw.

Ar stepen drws Costa, roedd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn rhannu taflenni i gwsmeriaid yn marchnata bwytai annibynnol eraill lle gellir cael gwasanaeth gwbl Gymraeg.

 

Dadl yr ymgyrchwyr yw y dylai cwmni rhyngwladol fel Costa, sydd wedi agor caffi mewn tref â chanran uchel o siaradwyr Cymraeg, adlewyrchu hynny yn eu gwasanaethau.  

 

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw ar Gyngor Gwynedd i wneud popeth o fewn ei allu i atal “cwmnïau enfawr” rhag tarfu ar fusnesau lleol ac i wneud astudiaeth o effaith ieithyddol a chymdeithasol agor unrhyw siop gan gwmni rhyngwladol yn y Sir.

Egwyddor
Dywedodd Ffion Angell o Gaernarfon, un a oedd yn cymryd rhan yn y brotest: “Rydym yn credu mai egwyddor sylfaenol cynhaliaeth y Gymraeg yw prynu nwyddau yn lleol, er mwyn hybu’r economi leol a lleihau ôl troed carbon,” meddai.

“Er arddel yr egwyddor hon, nid yw Cyngor Gwynedd yn ei weithredu’n gyson.  Er datgan eu bod o blaid prynu’n lleol, nid yw Cyngor Gwynedd wedi atal canghennau o Costa rhag agor caffis yn nhrefi’r sir. Mae cael Costa yng Nghaernarfon yn sicr yn cael effaith ar gaffis cynhenid y dref.”

Mae’r ymgyrchwyr bellach wedi sefydlu tudalen Facebook ‘Achub Gwynedd Leol’, a bydd y Gymdeithas yn parhau i alw ar y Cyngor i weithredu sustem ble mae’n rhaid creu astudiaeth o effaith ieithyddol a chymdeithasol agor siopau gan gwmnïau rhyngwladol yn y dyfodol a fydd yn cystadlu yn erbyn busnesau lleol a chynhenid i Wynedd.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb Costa ac am ymateb Cyngor Gwynedd.