Fe fydd un o gwmnïau technoleg mwya’r byd yn agor canolfannau hyfforddi yng Nghaerdydd a Phort Talbot yr wythnos nesaf.

Mae Google wedi lansio cynllun newydd fydd yn cynnig pum awr o hyfforddiant sgiliau technegol am ddim i bobol sy’n awyddus i ddysgu mwy am gyfrifiaduron.

Mae’r cwmni hefyd wedi cyhoeddi cynllun dysgu newydd gyda’r bwriad o gyflwyno realiti rhithwir, neu virtual reality, i filiwn o blant ysgol yng ngwledydd Prydain.

‘Tanio dychymyg plant’

Ar ei ymweliad cyntaf a Phrydain fel prif weithredwr Google, dywedodd Sundar Pichai: “Fe all realiti rhithwir danio dychymyg plant a’u helpu i ddysgu am bynciau fel sut mae gwaed yn llifo trwy’r corff neu effaith cynhesu byd eang ar y Barrier Reef.

“Mi fyddwn ni hefyd yn annog plant i feddwl am eu gyrfaoedd yn y dyfodol trwy fynd a nhw ar drip rhithwir i weld amgylchiadau gwaith mewn lleoliadau fel ysbytai neu ffatri Aston Martin.”

Mae canolfannau hyfforddi eisoes wedi agor ym Manceinion, Newcastle, Birmingham a Glasgow er mwyn cynnig cymorth wyneb yn wyneb i bobol o bob oed.