Llun: PA
Mae elusen Shelter Cymru yn rhybuddio y bydd mwy na 1,100 o blant yng Nghymru yn ddigartref neu’n byw mewn llety dros dro y Nadolig hwn.

Mae’r elusen yn rhagweld y bydd plant hyn yn byw mewn hosteli, llety gwely a brecwast neu gyda ffrindiau a theulu ac mewn lle na allant ei alw’n ‘gartref’.

Maen nhw’n rhybuddio fod amodau o’r fath yn gallu arwain at broblemau iechyd meddwl a chorfforol yn yr hirdymor.

Am hynny, mae Shelter Cymru wedi lansio ymgyrch i godi ymwybyddiaeth am ddigartrefedd ymysg plant a thynnu sylw at y cymorth sydd ar gael.

Maen nhw’n annog pobol i dynnu llun o’i drws ffrynt gan ddefnyddio’r hashnod #FrontDoor a’i rannu ar gyfryngau cymdeithasol.