Lleuad llawn (Llun: Wikipedia)
Fe fydd edrych ar y lleuad yn brofiad go wahanol i drigolion Cymru heno wrth iddo ymddangos yn fwy llachar a llawn nag arfer.

Y rheswm am hyn, yn ôl asiantaeth ofod Nasa, yw y bydd y lleuad yn agosach at y ddaear nag a fu yn y 69 mlynedd ddiwethaf – 221,525 milltir i ffwrdd.

Mae arbenigwyr yn disgwyl i’r lleuad ymddangos 14% yn fwy a 30% yn fwy llachar – a hynny i’w weld orau ar ôl i’r haul ddechrau machlud am tua 5yh nos Lun.

Ond mae rhagolygon am law a niwl yng ngorllewin Cymru, felly fe all fod yn anodd gweld y “supermoon” o’r rhannau hynny.

Y lleuad llachar nesaf

Nid oes cyfres o olygfeydd tebyg o’r lleuad wedi bod ers 1948 ac mae darogan na fydd yn dod mor agos at y ddaear eto tan 2034.

Ond fe fydd cyfle i weld lleuad lachar arall ar 14 Rhagfyr, er na fydd mor fawr a llachar a’r un heno.