Fe fydd dŵr yn cael ei ddatganoli ar ôl i Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns ildio’i hawl i ymyrryd mewn deddfwriaeth.

Ar hyn o bryd, gall Llywodraeth Prydain atal deddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru os yw’n debygol o gael effaith negyddol ar gyflenwad dŵr Lloegr.

Ond mae diwygio Mesur Cymru, sy’n cael ei ystyried gan yr Arglwyddi ar hyn o bryd, yn golygu na fydd y ddeddf newydd yn cynnwys yr hawl i ymyrryd.

Mae’r penderfyniad yn golygu bellach y bydd Dŵr Cymru’n cael ei weinyddu gan Lywodraeth Cymru.

‘Mater heriol’ 

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Alun Cairns: “Bydd y pwerau presennol sy’n caniatáu i Weinidogion y DU ymyrryd mewn dŵr yn cael eu disodli gan gytundeb statudol rhwng llywodraethau’r DU a Chymru.

“Mae hyn yn cydnabod natur y berthynas gynyddol aeddfed rhwng llywodraethau San Steffan a Bae Caerdydd. Mae’n rhan o becyn ehangach o fesurau sy’n cael eu cytuno o dan Fesur Cymru.

“Mae dŵr wedi bod yn fater heriol fel y bydd unrhyw un sy’n ymwybodol o hanes diweddar Cymru’n gwybod.

“Rwy’n falch y gallwn ni nawr ddod i gytundeb pendant sy’n datrys gwahaniaethau’r gorffennol ac sy’n cynnig sicrwydd ar gyfer y dyfodol.

“Dyma sydd wrth wraidd Mesur Cymru a gafodd ei lunio er mwyn rhoi rheolaeth i bobol Cymru dros y penderfyniadau dyddiol sy’n effeithio’u bywydau.

“Mae hi ond yn naturiol fod mater hanfodol fel dŵr yn rhan o’r cytundeb.”

Tryweryn 

Roedd Plaid Cymru wedi mynegi pryder fod cadw’r grym tros ddŵr yn San Steffan yn cynyddu’r risg y gallai digwyddiad fel Tryweryn gael ei ailadrodd.

Roedd Comisiwn Silk wedi awgrymu yn 2014 fod angen i reolaeth tros ddŵr gael ei ddiffinio yn ôl ffiniau daearyddol yn hytrach na ffiniau cwmnïau.

Ar hyn o bryd, mae Dŵr Cymru’n gyfrifol am Gymru a rhannau o Loegr, Severn Trent yn bennaf gyfrifol am Loegr ond rhannau o Gymru hefyd, a Dee Valley Water yn gyfrifol am ogledd Cymru a Lloegr.