Mae’n rhaid i’r Wyl Cerdd Dant fod yn agored i newidiadau a moderneiddio, tra’n parchu hen reolau’r grefft. Dyna neges y canwr opera, Bryn Terfel, i gynulleidfa o dros 300 o bobol ym Mhwllheli nos Sadwrn.

Fe rybuddiodd y bas-bariton hefyd- â’i dafod yn ei foch – y gallai ef ei hun ddychwelyd at ganu i gyfeiliant y delyn, nawr fod ganddo delyn yn ei gartre’ ym Mhenarth. Roedd yn cyfeirio at ei berthynas â’i gymar, Hannah Stone, cyn-delynores Tywysog Cymru.

Ond mewn neges fideo a recordiwyd ar Bier Penarth ac a ddarlledwyd ar sgrin fawr ar lwyfan yr Wyl ym Mhlas Heli, Pwllheli, fe gyfeiriodd Bryn Terfel hefyd at bwysigrwydd cerdd dant, ac fe dalodd deyrnged i’r rhai a’i hyfforddodd yn y maes – Nan Elis a Dafydd G Jones (Selyf) o Garndolbenmaen.

“Mae rheolau yn bwysig,” meddai Bryn Terfel, “ac mae ynganu geiriau yn rhywbeth ddysgais i wrth ganu cerdd dant, ac mae o’n un o’r pethau dw i’n dal i’w wneud, ac yn mynd â fo efo fi i neuaddau mawr y byd.

“A phwy a wyr? Ella y bydda’ innau’n dychwelyd at y grefft, rwan bod gen i delyn yn y ty!”

Newid

Ond, wrth gyfeirio at yr opera y mae wrthi’n ei hail-ddysgu ar hyn o bryd, mae Bryn Terfel yn dweud bod yn rhaid i’r Wyl Cerdd Dant groesawu lleisiau ac arddulliau newydd wrth symud yn ei blaen.

Mae Die Meistrsinger von Nurnberg gan Wagner yn adrodd hanes cystadleuaeth ganu flynyddol yn ninas Nurenberg yng nghanol y 16eg ganrif, lle mae beirdd a chantorion yn cael eu hystyried yn grefftwyr, ac mae ganddyn nhw eu set o reolau pendant wrth greu eu gweithiau.

Yn y ddrama gomedi, mae Walther yn trio dysgu rheolau’r gystadleuaeth er mwyn ennill llaw Eva, ond mae’n dod wyneb yn wyneb â beirniadaeth lem a rhagfarn a pheth snobyddiaeth ei gyd-gantorion. Ond, erbyn diwedd y perfformiad pedair awr a hanner, mae’n llwyddo i ennill y gystadleuaeth… ac ennill y ferch hefyd.

“Mae yna reolau, mae yna arddull, ond mae yna le i newid,” meddai Bryn Terfel, ac yntau’n annerch gwyl gynta’ ei gyn-bartner deuawd cerdd dant, John Eifion, yn Drefnydd arni.