Mae gwasanaethau Sul y Cofio’n cael eu cynnal ledled Cymru heddiw.

Bydd y gwasanaeth cenedlaethol swyddogol yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd, ac fe fydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn bresennol ger y gofeb ryfel ym Mharc Cathays.

Bydd gwasanaethau eraill yn cael eu cynnal yn Abertawe, Aberystwyth, Casnewydd a Wrecsam.

Fe fydd gorymdaith drwy Gasnewydd cyn gwasanaeth ger y senotaff ac yn Abertawe, fe fydd gwasanaeth yn Eglwys y Santes Fair am 2.30pm yn dilyn gorymdaith drwy’r ddinas.

Yn Wrecsam, fe fydd gwasanaeth ger cofeb RWF ym Modhyfryd am 10.55yb.