Gareth Bale - sgorio eto (llun PA)
Cymru 1 Serbia 1
Fe lwyddodd Cymru i ddal gafael mewn pwynt wedi bod ar y blaen tan y munudau ola’.
Serbia a gafodd y gorau o’r ail hanner gyda Chymru’n methu a chael digon o feddiant i fygwth.
Ond roedd chwerwder yn y gol – funud wedi i Gareth Bale daro’r postyn.
Hanner amser:
Cymru 1 Serbia 0
Mae Cymru ar eu ffordd i’r ail le yn eu grŵp yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd wrth i Gareth Bale (unwaith eto) roi’r fantais iddyn nhw.
Mae hi wedi bod yn gêm agored gyda’r ddau dîm yn gwrthymosod yn gyflym ac fe ddaeth y digwyddiad tyngedfennol ar ôl union hanner awr … James Chester o’r cefn yn rhoi pwysau ar amddiffyn Serbia gyda phas hir … Hal Robson-Kanu yn llwyddo i ennill y bêl, yn ei thynnu ar draws i Gareth Bale ac yntau’n taro gyda’i droed chwith trwy goesau amddiffynnwr ac i mewn.
Yn union wedyn, fe ddaeth Cymru’n agos at ail ar ôl symudiad ardderchog rhwng Aaron Ramsey, Bale a Hal Robso-Kanu.
Fel arall, mae’r gêm wedi bod yn gyfartal, gyda chyfnodau da i’r ddau dîm ond dim ond unwaith y daeth Serbia’n agos wrth i Neil Taylor glirio oddi ar y lein ar ôl ychydig tros chwarter awr.