Mae dynes wedi’i lladd ar ol cael ei tharo gan drên nepell o orsaf Pencoed.

Mae llefarydd ar ran yr Heddlu Trafnidiaeth wedi cadarnhau i’r gwasnaethau brys gael eu galw i’r digwyddiad toc wedi canol dydd, ddydd Sadwrn.

Roedd y wraig wedi marw yn y fan a’r lle, a dyw ei marwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus.