Llun: Heddlu Gogledd Cymru
Mae’r heddlu wedi cael rhagor o amser i holi dyn 48 oed a gafodd ei arestio yn Wrecsam ddydd Iau.

Mae’n cael ei amau o droseddau sy’n ymwneud ag Adran 41 o Ddeddf Terfysgaeth 2000.

Roedd wedi cael ei arestio fel rhan o gyrch ar y cyd rhwng uned eithafiaeth a gwrth-derfysgaeth Cymru, Heddlu Gogledd Cymru ac uned gwrth-derfysgaeth Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr.

Roedd gan yr heddlu 48 awr i’w holi ar y cychwyn, ond mae gwarant bellach yn eu galluogi i’w gadw gan dydd Iau nesaf (17 Tachwedd).

Mae’r dyn, nad yw wedi cael ei enwi, bellach mewn gorsaf heddlu rywle yng nghanolbarth Lloegr.

Meddai llefarydd ar ran yr heddlu:

“Mae gwarant cadw pellach wedi cael ei ganiatáu ar gyfer dyn 48 oed a gafodd ei arestio yn Wrecsam o dan Adran 41 o Deddf Terfysgaeth 2000.

“Mae’r gwarant cadw pellach yn galluogi plismyn i gadw’r dyn yn y ddalfa tan 17 Tachwedd, pryd y byddant naill ai yn ei gyhuddo, ei ryddhau neu’n gwneud cais am warant arall.”