Frank Atherton (llun o'r adroddiad blynyddol)
Mae’n rhaid mynd i’r afael â’r gwahaniaeth anferth rhwng iechyd y bobol fwya’ cefnog a’r rhai mwya’ di-fraint, yn ôl Prif Swyddog Meddygol Cymru.

Ac, yn ôl Dr Frank Atherton, mae’r 1000 diwrnod cynta’ ym mywyd plentyn a phrofiadau plentyndod yn allweddol wrth ymladd annhegwch sydd, meddai, “yn gywilydd”.

Rhai  o’r ystadegau

Mae ffigurau yn ei adroddiad blynyddol cynta’ yn dangos:

  • Bod canran marwolaethau plant bron ddwywaith yn uwch yn ardaloedd mwya’ di-fraint Cymru o’i gymharu â’r rhai mwya’ breintiedig.
  • Bod babanod yn yr ardaloedd mwya’ cefnog tua 200 gram yn drymach adeg eu geni.
  • Bod dwywaith mwy o blant Merthyr Tudful yn ddifrifol dew o gymharu â Bro Morgannwg.
  • Mae gwahaniaeth i tua 10 mlynedd rhwng hyd bywyd yn rhannau cyfoethoca’ a rhannau tlota’ Caerdydd.
  • Bod profiadau gwael yn ystod plentyndod yn arwain at fywydau llawer llai iach yn nes ymlaen.

‘Rhaid ystyried tlodi’

Mae’r adroddiad yn pwysleisio bod rhaid i’r Gwasanaeth Iechyd weithio’n llawer agosach gyda’r bobol er mwyn datrys y problemau ac mae’n ddyletswydd ar yr awdurdodau i ystyried y gwahaniaethau cymdeithasol wrth greu polisi.

Yn ôl yr adroddiad sydd wedi ei greu ar y cyd â’r cyn Brif Swyddog, Chris Jones, mae’r rhaid canolbwyntio ar y 1000 diwrnod cynta’, profiadau plentyndod a ffyrdd iach o fyw gan roi blaenoriaeth i grwpiau sydd mewn mwya’ o beryg.

Fe fyddai hynny yn y pen draw yn lleihau’r pwysau tymor hir ar y Gwasanaeth Iechyd, meddai.