Mae dyn 48 oed wedi’i arestio yn Wrecsam ar amheuaeth o droseddau terfysgol.

Fe gafodd ei ddwyn i’r ddalfa ar amheuaeth o fod yn ymwneud â chomisiynu, paratoi a gweithredu terfysg, dan Adran 41 o Ddeddf Terfysgaeth 2000. Mae’r ymchwiliad yn ffrwyth cydweithio rhwng Uned Gwrth-Derfysgaeth Eithafol Cymru (WECTU), Heddlu Gogledd Cymru ac Uned Gwrth-Derfysgaeth y West Midlands.

Mae’r dyn bellach yn cael ei holi mewn swyddfa heddlu yn ardal Heddlu’r West Midlands, ond mae’r ty yn Wrecsam lle cafodd ei ddal, yn parhau i gael ei archwilio.

Mae gan swyddogion heddlu’r West Midlands 48 awr i h0li’r dyn cyn gorfod ei gyhuddo, ei ryddhau neu wneud cais am warant i’w ddal am gyfnod hwy.