Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i achos o dwyll honedig yng Ngholeg Chweched Dosbarth ar Ffordd Casnewydd.

Fe ddaeth y cadarnhad wedi i rai anghysonderau ariannol o fewn y coleg gael eu dwyn i sylw Heddlu De Cymru.

Mae ymchwiliad i’r honiadau wedi’i sefydlu gan Uned Troseddau Economaidd y llu, ac mae’r Comisiwn Elusennau wedi penodi rheolwr dros-dro i gymryd drosodd y gwaith o redeg y coleg.