Mae gwerth mwy na £15,000 or cyffur cocên wedi’i atal yn ardal Aberdâr, ac mae Heddlu De Cymru yn diolch i bobol leol am wybodaeth a arweiniodd at y darganfyddiad.

Roedd plismyn o’r pentre’, y tim heddlu cymunedol ynghyd ag uned plismona’r ffyrdd yn rhan o’r ymgyrch a arweiniodd at ddod o hyd i gerbyd a oedd â chysylltiad â chyffuriau.

Pan gafodd y cerbyd ei atal, fe ddaethpwyd o hyd i ddau fag o’r cyffur cocên; ac wedyn, o chwilio cyfeiriad oedd yn gysylltiedig â’r bobol yn y car, fe ddaethpwyd o hyd i chwarter cilo o’r cyffur, a hwnnw’n werth tua £15,000 ar y stryd.

Mae dyn wedi’i arestio a’i ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu.