Paul Rutherford gyda Warren, ei wyr (Llun: Benjamin Wright / PA)
Mae Llywodraeth Prydain wedi methu yn ei hymgais i wyrdroi dyfarniad y Llys Apêl oedd yn cefnogi achos teulu o Sir Benfro.

Mae Paul a Sue Rutherford yn gofalu am eu hŵyr, Warren, ac roedden nhw ymhlith nifer o deuluoedd oedd yn dadlau bod y newidiadau i’r budd-dâl anabledd yn gwahaniaethu yn anghyfreithlon yn erbyn pobol y mae angen ystafell wely ychwanegol arnyn nhw oherwydd anabledd.

Roedd ganddyn nhw bryderon ynghylch y rheolau am eu bod nhw’n gofalu am Warren dros nos yn ogystal â thrwy’r dydd.

Dywedodd y barnwyr nad oedd yn fater iddyn nhw farnu arno.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau y bydden nhw’n cymryd camau i gyd-fynd â’r dyfarniad.