Mae arweinydd Plaid Cymru yn dweud bod tebygrwydd rhwng patrwm pleidleisio Cymru yn refferendwm Ewrop ac America yn etholiad Trump – a’r ardaloedd sydd â’r “lleiaf o gyfleoedd” sy’n crefu’r newid mwya’.

Yn ôl Leanne Wood, mae yna arferiad yn datblygu yn Ewrop o daro’n erbyn y sefydliad – ac mae’n rhaid “ceisio deall” y safbwynt hwnnw.

Wrth gyfeirio at bleidlais Brexit ac etholiad yr Unol Daleithiau, mae hi’n cyfaddef bod llawer o bobol wedi cael “eu diystyrru” gan wleidyddiaeth fodern a bod ffigyrau “cyfoethog a phwerus” wedi cymryd mantais o hynny.

Ergyd i’r sefydliad, meddai’r Ceidwadwyr

Mewn ymateb arall i ganlyniad etholiad yr Unol Daleithiau, fe ddywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, bod y dewis i ethol Trump yn Arlywydd newydd yn “ergyd i’r sefydliad gwleidyddol”.

Ond, wrth longyfarch Trump, fe ddywedodd Aelod Seneddol Ceidwadol Sir Fynwy David Davies bod “syndod y cyfryngau a dicter y sylwebwyr yn dangos eu methiant i wrando, ac i ddeall, llais mwyafrif mud”.