Mae ymchwiliad wedi canfod fod “methiant systematig” yng ngofal bwrdd iechyd ar ôl i glaf orfod disgwyl dros bedwar mis cyn cael triniaeth am afiechyd a allai fod wedi bygwth ei fywyd.

Yn ôl adroddiad swyddogol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, roedd meddygon ymgynghorol yn Ysbyty Glan Clwyd, Llanelwy wedi dangos “diffyg brys ofnadwy” wrth ymdrin ag anghenion claf a oedd yn dioddef o ffurf ymosodol o ganser y prostad.

Daeth beirniadaeth hefyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru am y modd y gwnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ymdrin â chwyn gan y claf, sy’n cael ei adnabod fel Mr D yn yr adroddiad.

Dylai claf sydd newydd gael diagnosis o ganser ddechrau ar eu triniaeth o fewn 31 diwrnod, yn ol canllawiau Llywodraeth Cymru.

Dim cyfiawnhad

Dyma’r trydydd adroddiad o’i fath gan yr Ombwdsmon yn ymwneud â’r ysbyty yn y ddau fis diwethaf.

“Yn yr achos arbennig yma, roedd yna ddiffyg brys ofnadwy yn y modd yr atgyweiriwyd rhwng meddygon ymgynghorol ar wahanol safleoedd ysbyty’r Bwrdd Iechyd,” meddai’r Ombwdsmon Nick Bennett.

“Ymddengys y bu methiant systematig i gydnabod ac ymateb i’r ffaith fod Mr D yn dioddef o ffurf ymosodol o ganser y prostad a allai fygwth ei fywyd ac a oedd angen triniaeth radical ar frys.

“Ni welais i unrhyw beth yn ymateb y Bwrdd Iechyd i fy ymchwiliad a allai gyfiawnhau methiant sydd wedi peri cymaint o bryder.”

Oedi wrth drefnu llawdriniaeth

Esboniodd yr adroddiad bod oedi wrth gynnal ymchwiliadau diagnostig ac wrth drefnu llawdriniaeth ar ôl rhoi diagnosis i’r claf ym mis Gorffennaf 2014.

Mae’r bwrdd iechyd wedi cytuno i weithredu nifer o argymhellion, gan gynnwys ymddiheuriad ysgrifenedig llawn ac adolygiad o’r modd y mae ei wasanaeth wroleg yn cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

Daeth ymddiheuriad gan brif weithredwr Betsi Cadwaladr Gary Doherty yn ogystal.