Tafwyl yng Nghastell Caerdydd
Mae Menter Caerdydd wedi dweud ei fod yn ystyried symud gŵyl Gymraeg Tafwyl o ganol dinas Caerdydd i Gaeau Pontcanna yn 2017, gan fod digwyddiad arall yn cael ei gynnal yr un penwythnos.

Dywedodd y swyddog sy’n gyfrifol am yr ŵyl, Llinos Williams, bod trafodaethau rhwng y fenter a Chyngor Caerdydd eisoes wedi cychwyn a bod disgwyl cadarnhad o’r lleoliad newydd yn y flwyddyn newydd.

Fe fydd Tafwyl, sydd fel arfer yn cael ei gynnal yng Nghastell Caerdydd ar ddechrau mis Gorffennaf, yn symud y tro hwn gan fod rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn cael ei gynnal yn y ddinas ar 3 Gorffennaf.

Fe wnaeth tua 35,000 o bobol heidio i’r castell i wylio grwpiau fel Eden a Candelas yn perfformio yn 2016 ac mae prif weithredwr Menter Caerdydd, Siân Lewis, yn “gobeithio denu cynifer o ymwelwyr i fwynhau’r ŵyl deuluol unwaith eto”.

Mae Caeau Pontcanna yn ardal i orllewin y ddinas, ryw hanner awr o gerdded o’r castell.

Bydd yr ŵyl yn dychwelyd i erddi’r castell yn 2018.