Ffatri'r cwmni fferyllol Wockhardt yn Wrecsam, Llun: Gwefan Wockhardt
Fe fydd cwmni fferyllol sydd â ffatri yn Wrecsam yn creu hyd at 50 o swyddi newydd yn sgil buddsoddiad o £10 miliwn.

Mae Wockhardt yn gwmni o India ac mae’n darparu meddyginiaethau fel inswlin i’r Gwasanaeth Iechyd.

Mae’r safle yn Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam eisoes yn cyflogi 380 o weithwyr ac mae disgwyl i’r buddsoddiad arwain at gyflogi rhwng 40 a 50 o weithwyr newydd.

Bydd hefyd yn galluogi’r cwmni i adeiladu adran weithgynhyrchu newydd, sy’n debygol o agor ym mis Rhagfyr 2016.

Daw’r cyhoeddiad wrth i’r Prif Weinidog Theresa May ymweld ag India gydag arweinwyr masnach.