Stephen Crabb Llun: PA
Mae angen newid trefn y budd-dal anabledd newydd gan ei fod ar hyn o bryd yn “drawmatig” i bobol sy’n ceisio amdano, yn ôl y cyn-Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Stephen Crabb.

Wythnos ar ôl i Lywodraeth Prydain gyhoeddi ei fod yn ailwampio’r drefn, fe ddywedodd Stephen Crabb wrth raglen Week In Week Out y BBC nad yw’n gwrthwynebu system Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) ond y dylid gwneud y broses o wneud cais yn fwy “cefnogol”.

Ymateb yr Adran Waith a Phensiynau oedd bod asesiadau ar gyfer PIP yn cael eu cynnal gan “staff iechyd proffesiynol, cymwys”.

Mae PIP yn fudd-dal sy’n cael ei gynnig i bobol anabl er mwyn eu helpu i fyw bywyd annibynnol. Daeth i rym yn 2013 ac mae tua 150,000 o bobol wedi cael eu hasesu am y budd-dal yng Nghymru.

 

‘Torri cefnogaeth’

 

Ar y rhaglen heno, fe fydd Stephen Crabb yn siarad yn ei gyfweliad cyntaf ar les ers iddo gamu lawr o’i swydd fel yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau. Roedd wedi cael gwared ar gynlluniau i dorri budd-dal PIP yn ei gyfnod yn y swydd, ac fe wnaeth ei ragflaenydd, Iain Duncan Smith ymddiswyddo tros doriadau arfaethedig yn y Gyllideb ym mis Mawrth.

“Roeddwn yn meddwl ei fod yn anghywir,” meddai Stephen Crabb.

“Doeddwn i ddim yn fodlon camu i’r swydd a gwneud fy ngweithred gyntaf yn un o dorri cefnogaeth i bobl anabl.

“Maen nhw [ceiswyr] yn teimlo ei fod yn asesiad busneslyd – ac nid hynny dy’n ni’n ceisio ei wneud. Mae’n rhaid i ni gael proses asesu cefnogol sy’n dod i’r penderfyniad cywir am y math o arian ac adnoddau y mae person anabl eu hangen.”

‘Staff cymwys’

Dywedodd Capita bod staff â’r cyfarpar a’r gefnogaeth i gynnal asesiadau, a bod hyfforddiant yn cael ei ddarparu.

Mewn datganiad, dywedodd yr Adran Gwaith a Phensiynau: “Mae asesiadau ar gyfer PIP yn cael eu cynnal gan staff iechyd proffesiynol, cymwys sy’n cyfuno eu gwybodaeth glinigol gyda dealltwriaeth o’r ffaith nad yw pawb gyda’r un anabledd yn cael eu heffeithio yn yr un ffordd.

“Mae penderfyniadau yn cael eu gwneud wedi i’r holl wybodaeth sy’n cael ei ddarparu gan yr ymgeisydd gael ei ystyried, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth gefnogol gan eu meddyg teulu neu arbenigwr meddygol.”

Bydd rhaglen Week In Week Out: Why Have My Benefits Been Cut? – BBC One Wales, yn cael ei darlledu am 22:45 nos Fawrth, 8 Tachwedd.