Arddangosfa Poppies: Weeping Window' yng Nghastell Caernarfon
Mae bron i 100,000 o bobol bellach wedi ymweld â Chastell Caernarfon i weld arddangosfa pabïau ‘Poppies: Weeping Window’ ers iddi agor ar Hydref 11 ar drothwy Sul y Cofio.

Wrth groesawu’r ffigurau ymwelwyr, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, Ken Skates, “Mae’r ffaith bod Castell Caernarfon wedi cael cyfle i gyflwyno arddangosfa Weeping Window yn rhywbeth y dylai pobl Cymru ymfalchïo ynddo.

“Ardderchog yw gweld bod cynifer o bobl wedi manteisio ar y cyfle hwn i’w gweld.”

Ychwanegodd, “Mae’r arddangosfa’n ffordd briodol iawn o nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf a hoffwn ddiolch i’r holl staff a’r gwirfoddolwyr sydd wedi gweithio mor galed i sicrhau bod modd i Gastell Caernarfon groesawu Poppies: Weeping Window.”

Dyma ymweliad cynta’r arddangosfa, gan yr artist Paul Cummins a’r cynllunydd Tom Piper, i Gymru fel rhan o daith ledled gwledydd Prydain sydd wedi’i threfnu i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cafodd yr arddangosfa ei gosod yn wreiddiol yn Nhŵr Llundain rhwng mis Awst a mis Tachwedd 2014 ac roedd 888,246 o babïau yn rhan o’r arddangosfa honno, un i anrhydeddu pob person o Brydain a’r Gwladfeydd a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae modd gweld yr arddangosfa o fewn muriau Castell Caernarfon bob dydd hyd at 20 Tachwedd.