Emma Baum, Llun: Heddlu Gogledd Cymru
Mae gwrandawiad yn cael ei gynnal yn Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw i lofruddiaeth dynes 22 oed o Benygroes, Dyffryn Nantlle, ym mis Gorffennaf eleni.

Fis diwethaf fe blediodd cyn-gariad Emma Baum, David Nicholas Davies 25 oed, o Glynnog Fawr ger Caernarfon, yn euog o’i llofruddio.

Er hyn, nid yw’n derbyn achos yr erlyniad yn llawn ac mae’n gwadu defnyddio cyllell yn ystod yr ymosodiad gan ddweud na aeth ag arf i gartref Emma Baum.

Cafwyd hyd i gorff Emma Baum yng ngardd gefn ei chartref yn Heol Llwyndu, Penygroes ar 18 Gorffennaf eleni. Roedd hi wedi cael anafiadau i’w phen.

Clywodd y llys fod David Nicholas Davies wedi gwylio mam Emma Baum wrth iddi geisio adfywio corff ei merch.

Mae’r gwrandawiad yn edrych ar ei gymhelliad dros lofruddio, ac yn cael ei adnabod fel Gwrandawiad Newton lle nad oes rheithgor.