Mae arweinydd Plaid Cymru wedi galw ar i wrandawiadau Pwyllgor Brexit gael eu cynnal yng Nghymru.

Mae Aelod Cynulliad y Rhondda wedi ygrifennu at gadeirydd y pwyllgor trawsbleidiol o Aelodau Seneddol, Hilary Benn, yn gofyn iddo sicrhau fod sesiynau tystiolaeth yn digwydd ledled gweladydd Prydain, ac nid yn cael eu canoli mewn “canolfannau metropolitaidd yn Lloegr”.

Yn ôl Leanne Wood, mae hyn yn hanfodol os yw pwyllgor Brexit am esgor ar ganfyddiadau fydd yn deg i’r cenhedloedd datganoledig.

Etholwyd Mr Benn fis diwetha’ i arwain y pwyllgor o 21 Aelod Seneddol, sydd yn cynnwys Jonathan Edwards o Blaid Cymru. Bydd y pwyllgor yn craffu ar waith Adran Gadael yr Undeb Ewropeaidd, dan arweiniad David Davis.

Llythyr Leanne Wood

“Er mwyn sicrhau fod pob cenedl yn y Deyrnas Gyfunol yn chwarae rhan lawn yn y cyfnod hanfodol hwn, mae’n hanfodol fod sesiynau tystiolaeth yn cael eu cynnal ym mhob un o’r cenhedloedd sydd yn rhan o’r Deyrnas Gyfunol,” meddai arweinydd Plaid Cymru yn ei llythyr at Hilary Benn.

“O’r safbwynt Cymreig, mae ein hanghenion mewn llawer achos yn wahanol i rai Lloegr. Bydd hyn yn wir am Ogledd Iwerddon a’r Alban hefyd. Oni fydd y sesiynau tystiolaeth yn cael eu taenu yn ddaearyddol, bydd canfyddiadau’r pwyllgor yn cael eu gwyro yn bennaf tuag at anghenion y canolfannau metropolitaidd yn Lloegr.

“Cafodd ein sefydliadau datganoledig oll eu ffurfio o fewn fframwaith yr Undeb Ewropeaidd a deddfwriaeth Ewropeaidd. Bydd datod y we cymhleth honno yn golygu amser, amynedd a dealltwriaeth o’r gwahanol setliadau datganoli yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban.

“Er mwyn cael y mewnwelediad hwnnw, byddai’n synhwyrol taenu lleoliad y gwrandawiadau yn gyfartal. Gobeithio felly y gwelwch bwysigrwydd sicrhau fod pob llais yn y Deyrnas Gyfunol yn cael ei glywed yn drylwyr ac yn deg yn y gwrandawiadau sydd ar ddigwydd ynghylch Brexit.”