Bydd yr Arglwydd Elystan Morgan yn cyflwyno gwelliannau i Fesur Cymru yn Nhŷ’r Arglwyddi ddydd Llun, gan alw am Statws Dominiwn i Gymru a sefydlu dau weithgor.

Diben y ddau weithgor fydd adrodd o fewn tair blynedd ar weithredu mân bwerau ataledig y Mesur.

Wrth gyflwyno’r gwelliannau, fe fydd yn datgan fod “cynllun y Llywodraeth ar gyfer cyfansoddiad pwerau ataledig i Gymru yn sylfaenol ddiffygiol” a bod y pwerau eu hunain “yn groes i egwyddor sybsidiaredd” ac yn “warth ar enw Cymru”.

Fe fydd yn dadlau bod “dull y Llywodraeth o weithredu yn gwbl chwerthinllyd” gan eu bod wedi cynnwys dros 200 o ataliadau, sy’n “ymwneud â materion bychain a thila”, gan gynnwys trwyddedau alcohol, cŵn peryglus, puteindra a chasgliadau elusennol, ymhlith eraill.

Yn ôl yr Arglwydd Morgan: “Mewn cymdeithas oleuedig, mae system bwerau ataledig yn dibynnu’n gyfangwbl ar gyd-ymddiriedaeth a pharch sy’n bodoli rhwng y fam Senedd a’r epil.”

Ychwanega fod agwedd Llywodraeth Prydain yn “un Imperialaidd a threfedigaethol” ac mai “Cymru oedd trefedigaeth gyntaf Lloegr a bod pobol o hyd a fyddai’n dymuno gweld hynny yn para hyd ddiwedd amser”.

Statws Dominiwn

Wrth alw am Statws Dominiwn i Gymru, dywed yr Arglwydd Morgan fod “rhaid i ni feddwl am ddyfodol ein cenedl mewn termau mawrfrydig”.

“Am rhy hir buom yn begera briwsion oddiar fwrdd ein meistri.”

Fe fydd yn galw am “godi ein golygon i lefelau uwch sy’n deilwng o’n statws fel gwlad a chenedl aeddfed”, gan egluro bod Statud Westminster 1931 yn hwyluso hynny drwy “egwyddor hyblyg ac ystwyth” yn hytrach na bod yn “[f]odel haearnaidd”.