Bydd Cyngor Caerdydd yn trafod rhoi terfyn ar y cynllun ‘Hawl i Brynu’ yr wythnos nesa’ er mwyn mynd i’r afael â’r galw uchel am dai yn y brifddinas.

Ar hyn o bryd, mae gan y Cyngor 13,470 o eiddo, sydd wedi lleihau o 23,000 eiddo yn 1985, yn bennaf trwy’r cynllun ‘Hawl i Brynu’.

Mae’n dilyn y cyhoeddiad diweddar am fwriad Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar y cynllun ‘Hawl i Brynu’.

Fel rhan o’r cynllun, gall awdurdodau lleol wneud cais i Weinidogion Cymru i atal gwerthu tai cyngor am gyfnod o hyd at bum mlynedd mewn ardaloedd lle mae prinder tai.

Ar hyn o bryd mae gan y rhan fwyaf o denantiaid y Cyngor yr hawl i brynu eu cartrefi ar ôl pum mlynedd – a chael gostyngiad o hyd at £8,000 ar werth yr eiddo – tra bod gan nifer o denantiaid Cymdeithas Dai yr hawl i gaffael eu cartrefi.

Dywed Cyngor Caerdydd bod tua 8,300 o ymgeiswyr ar eu rhestr aros ar gyfer tai yn y sir a bod dirfawr angen tai ar 4,600 ohonyn nhw.

Dywedodd yr Aelod Cabinet tros Iechyd, Tai a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore: “Mae ein dinas yn tyfu ac amcangyfrifir y bydd angen 2,024 o eiddo fforddiadwy ychwanegol arnom bob blwyddyn am y pum mlynedd nesaf i ateb y galw presennol.

“Rydym wedi adeiladu nifer o gartrefi fforddiadwy yn y ddinas dros y blynyddoedd diwethaf ac mae gwaith adeiladu ar y safleoedd cyntaf yn ein Rhaglen Partneriaeth Tai gyffrous, a fydd yn cynnig oddeutu 600 o eiddo cyngor newydd dros yr wyth mlynedd nesaf, yn dechrau’n fuan.

“Dyma fuddsoddiad sylweddol ac mae’n bwysig bod yr eiddo newydd ar gael i’r rhai sydd eu hangen fwyaf a ddim yn cael eu colli trwy’r ‘Hawl i Brynu’.

Os yw’r cyngor yn penderfynu bwrw mlaen â’r cynlluniau, bydd cyfnod ymgynghori yn dechrau ar 1 Rhagfyr.