Mae clasur Dafydd Iwan wedi ei hen fabwysiadu gan dîm rygbi'r Scarlets - a allai gydio yn Stadiwm Liberty, tybed?
Gallai neges y gân Yma O Hyd ysbrydoli tîm pêl-droed Abertawe wrth iddyn nhw frwydro i aros yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn, yn ôl eu rheolwr Bob Bradley.

Roedd Bradley yn ymateb i fideo sydd wedi’i chyhoeddi ar Youtube yr wythnos hon yn dilyn gêm Abertawe yn Stoke nos Lun.

Mae’r fideo’n awgrymu bod recordiad o gân Dafydd Iwan wedi cael ei chwarae yn yr ystafell newid cyn y gêm.

A hithau’n bennaf gysylltiedig â thîm rygbi’r Scarlets, cafodd Yma O Hyd ei roi yn enw ar ymgyrch cefnogwyr tîm pêl-droed Wrecsam i achub y clwb rhag trafferthion ariannol yn 2011.

Ond hyd yma, ni fu cyswllt uniongyrchol â Chlwb Pêl-droed Abertawe.

‘Er gwaetha pawb a phopeth’….

Yn ôl Bob Bradley, mae’r neges yn y geiriau “er gwaetha pawb a phopeth ry’n ni yma o hyd” yn un bwysig i’w dîm.

Dywedodd wrth Golwg360: “Mae gyda ni’r gallu i fod yn gryf, ac mae gyda ni’r gallu, er gwaetha pawb a phopeth, i sefyll gyda’n gilydd a mynd allan ar y cae ac ymroi’n llwyr dros ein gilydd.

“Dw i’n herio’r chwarewyr yn gyson i fynd allan ac ymroi’n llwyr. Dyna beth mae’r rheolwyr gorau’n ei wneud.”

Awgrymodd Bradley fod y neges honno yn amlwg ym mherfformiad Man City ddechrau’r wythnos wrth iddyn nhw guro Barcelona yng Nghynghrair y Pencampwyr.

“Mae pob math o sôn am yr hyn a allai fod wedi digwydd yn ystod hanner amser y gêm. Dw i ddim yn gwybod yn union beth ddigwyddodd, ond dw i’n gwybod un peth. Mae ganddyn nhw’r gallu i ddweud, “Fe awn ni allan a’u herio nhw ar ein telerau ni, pwy bynnnag ydyn nhw”.

“Wrth baratoi ar gyfer gêm, rhaid i chi feddwl beth mae’n ei olygu i chi. Ond pa ffordd bynnag ydyn ni’n paratoi ar gyfer gêm i dynnu sylw atyn nhw fel gwrthwynebwyr, y peth pwysig yn y pen draw yw pwy ydyn ni ar y diwrnod. Dyna’r neges dw i’n ei chyfle bob amser.”

‘Y Bos’

Fel Americanwr, mae Bradley yn achub ar bob cyfle i hybu rhinweddau dau o’i gydwladwyr amlycaf yn y byd cerddorol, Bob Dylan a Bruce Springsteen.

Ac mae’r ddau yma hefyd dan ystyriaeth pan ddaw i ddewis cân swyddogol i’w dîm am weddill y tymor.

Pan oedd Bradley yn rheolwr ar Stabæk yn Norwy, cân y tîm hwnnw oedd The Ties That Bind gan Bruce Springsteen ac mae’n crisialu ei gyfnod wrth y llyw, yn ôl yr Americanwr.

“Mae’n gân sy’n golygu cymaint i fi o hyd. Fel mae’r gân yn ei ddweud, allwch chi ddim torri cysylltiadau sy’n eich clymu chi.

“Pan fyddwch chi ynghlwm wrth rywbeth gyda’ch gilydd dros gyfnod o amser, mae pawb yn dod i nabod ei gilydd – boed yn deulu, ffrindiau, beth bynnag – pan fo gyda chi’r cyswllt cryf hwnnw, mae’n rhywbeth na allwch chi ei dorri.

“Dw i’n dal i ddarganfod gyda’r grŵp yma [yn Abertawe] pwy alla i ddibynnu arnyn nhw.”

Van Morrison neu David Bowie…

Er apêl Springsteen, mae ‘Bos’ Abertawe hefyd yn cael ei ysbrydoli gan ddau enw mawr yr ochr hwn i’r Iwerydd – Van Morrison a David Bowie.

Heroes gan David Bowie yw’r gân orau gewch chi. Hon oedd cân fy nhîm ym Mhrifysgol Princeton cyn pob gêm.

“Pan fu David Bowie farw, anfonodd y bois ro’n i’n chwarae gyda nhw ddolen i’r gân honno o gwmpas oherwydd hyd heddiw, mae’n dod â theimlad arbennig yn ôl o brofiadau wnaethon ni eu rhannu gyda’n gilydd.”

Cân swyddogol…?

Mae modd dweud yn sicr, felly, bod Dafydd Iwan, Bruce Springsteen a Bob Dylan yn debygol o fod yn uchel ar restr Bob Bradley pan ddaw i ddewis cân yn y pen draw.

Ond does dim brys gwyllt i ddewis y gân honno, meddai’r Americanwr.

“Dw i ddim am gyflwyno un newydd eto. Dw i am ddod i nabod y chwaraewyr a darganfod beth sy’n gweddu iddyn nhw. Efallai y gallwn ni ddod o hyd i rywbeth fydd yn golygu rhywbeth bach ychwanegol i bob un ohonon ni.”

Am y tro, mae sylw Bradley ar y gêm fawr ddydd Sul ac ar wella canlyniadau ei dîm mewn ymgais i’w codi o waelodion yr Uwch Gynghrair.

“Yr hyn rydych chi am ei gael yn fwy na dim yw tîm sy’n mynd allan ar y cae ac o’r dechrau, eu bod yn barod i roi popeth sydd ganddyn nhw at yr achos.

“Mae modd chwarae yn y ffordd gywir, cystadlu, a pheidio â cholli ffocws os aiff rhywbeth o’i le.

“Allwch chi ddim cymryd rhywbeth felly yn ganiataol. Mae’n golygu gweithio’n galed.”

Mae’n ddu iawn ar Abertawe ar hyn o bryd, ond does ond gobeithio, er dued y fagddu o’u cwmpas, y gallai canlyniad da yn erbyn Man U ddydd Sul olygu eu bod yn barod am doriad y wawr.