Arriva sydd a'r drwydded ar hyn o bryd (Llun Golwg360)
Mae ymgyrchwyr tros well rheilffyrdd yng ngogledd Cymru yn dweud bod y gystadleuaeth am drwydded i gynnal gwasanaethau yng Nghymru yn gyfle “na allwn ei golli”.

Mae Tasglu Rheilffordd Gogledd Cymru’n galw am fuddsoddi £1 biliwn i wella rheilffyrdd yno ac yn dweud y dylai gwella’r gwasaneth fod yn un o amodau’r drwydded newydd.

Fe fyddai hynny fydd “yn diogelu’r system at y dyfodol ac yn galluogi’r gwaith o foderneiddio, gwella  ac ehangu’r rhwydweithiau rheilffordd ymhellach,” meddai un o’r tasglu, Iwan Prys Jones.

O flaen y Pwyllgor Dethol

Ganol yr wythnos hon, fe fu’r Tasglu’n cyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn Nhŷ’r Cyffredin, gan ddadlau y byddai buddsoddiad o biliwn yn arwain at greu 70,000 o swyddi yn y Gogledd.

Roedd  Ken Skates, yr Ysgrifennydd dros yr Economi yn Llywodraeth Cymru hefyd wedi dadlau bod y gystadleuaeth am drwydded newydd ar gyfer Cymru a’r Gororoau yn “gyfle sy’n dod unwaith mewn cenhedlaeth”.

Cafodd Tasglu Rheilffordd Gogledd Cymru, sy’n cynnwys arweinwyr gwleidyddol a sector cyhoeddus a chynrychiolwyr busnes, ei greu i dynnu sylw at yr angen am welliannau i reilffyrdd ar draws y rhanbarth.

‘Hanfodol’

“Mae cysylltiadau rheilffyrdd da yn hanfodol ar gyfer iechyd yr economi ar bob lefel – o’r corfforaethau mwya’ i’r micro fusnesau lleia;,” meddai Ashley Rogers, un o’r cynrychiolwyr a fu’n cyflwyno tystiolaeth ar ran y Tasglu.

“Mae angen i ni drawsnewid profiad teithwyr drwy ei gwneud yn bosib i ddarparu gwasanaethau trên cyflymach ac amlach sy’n diwallu anghenion y teithwyr.”

  • Ar ôl 2017, fe fydd gan Lywodraeth Cymru yr hawl i osod amodau ar gyfer y drwydded reilffordd a nhw fydd yn penderfynu ar yr enillydd pan ddaw trwydded Arriva i ben yn 2018.