Mae gan y rhifyn diweddara o Private Eye adroddiad llawn am achos Gordon Anglesea - a hwythau wedi gorfod talu iawndal iddo wedi achos enllib yn 1994
Fe fydd y cyn-heddwas  Gordon Anglesea yn cael ei anfon i garchar heddiw ar ôl i lys ei gael yn euog o ymosodiadau rhywiol ar ddau fachgen 30 mlynedd yn ôl.

Er ei fod wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth ar ôl y dyfarniad, fe gafodd y cyn Uwcharolygydd gyda Heddlu Gogledd Cymru yn Wrecsam ei rybuddio bod carchar o’i flaen.

Roedd y tad i bump 79 oed, sydd bellach yn byw ym Mae Colwyn, wedi gwadu cyhoeddiadau o gam-drin rhywiol yn erbyn llanciau mewn canolfan i droseddwyr ifanc ac yng nghartref Bryn Alyn.

Ond fe benderfynodd rheithgor ei fod yn euog o droseddau yn erbyn dau o’r bechgyn  rhwng 1982 ac 1987.

Cymryd mantais

Fe glywodd y llys fod Gordon Anglesea wedi cymryd mantais o’i sefyllfa rymus – roedd yn arolygydd heddlu ar y pryd a’r bechgyn yn 14 oed a 15 oed.

Yn 1994, roedd Gordon Anglesea wedi ennill iawndal o £375,000 tros yr honiadau yn ei erbyn, ar ôl dod ag achos enllib yn erbyn y cyclchgrawn Private Eye, papurau’r Independent a’r Observer a chwmni teledu ITV.

Fe fydd y dyfarnu’n digwydd yn ddiweddarach heddiw yn Llys y Goron yr Wyddgrug – ar ddiwedd yr achos chwech wythnos, fe ddywedodd y Barnwr Geraint Walters yn glir y bydd yn cael ei garcharu.