Canon Joanna Penberthy (Llun: Yr Eglwys yng Nghymru)
Mae’r wraig gynta’ erioed i gael ei phenodi’n Esgob yn yr Eglwys yng Nghymru, am dreulio’r cyfnod cyn dechrau ar ei swydd newydd yn “cael crap ar siarad Cymraeg”.

Mewn cyfweliad â golwg360 heddiw, mae Joanna Penberthy, sy’n dod yn wreiddiol o Landaf, Caerdydd, yn dweud ei bod yn cynnal gwasanaethau yn Gymraeg – dim ond iddi gael rhywun i fwrw golwg dros ei phregethau er mwyn gwneud yn siwr fod ei threigladau’n gywir.

Ond mae natur wledig esgobaeth Tyddewi – sy’n cynnwys siroedd Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, yn golygu y bydd angen iddi gael gwell gafael ar yr iaith. Ac fe fydd yn rhaid iddi hithau fod yn galetach, meddai.

“Mae’n eitha’ anodd os nad ydych chi’n berson allblyg i ddysgu iaith, mae pobol yn garedig iawn i chi a phan maen nhw’n gweld eich bod chi’n cael trafferth, maen nhw’n newid i’r Saesneg, felly wnes i ddim gwrthio’n ddigon caled mewn sgwrs ag y dylen i,” meddai Joanna Penberthy.

“Ond bydd y bwlch nawr rhwng fy swydd a fy interim yn rhoi’r cyfle i fi gael crap ar siarad Cymraeg. Mae’n hanfodol, rydyn ni’n genedl dwyieithog, bywyd ein gwlad yw’r iaith a dw i eisiau gallu ei siarad yn iawn, nid cymryd arnaf yn unig.”