Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dweud na fyddan nhw’n gwneud datganiad ar wisgo’r pabi coch yng ngêm nesa’r tîm cenedlaethol yn erbyn Serbia.

Dywedodd Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cyfathrebu’r Gymdeithas wrth golwg360 y bydd y tîm yn gwneud datganiad “yn ein hamser ein hunain, nid dan bwysau gan bobol eraill”.

Mae FIFA wedi gwahardd chwaraewyr pêl-droed rhag gwisgo’r pabi coch yn ystod gemau’r corff, a hynny am fod y bathodyn yn cael ei weld fel “symbol gwleidyddol.”

Mae Cymdeithasau Pêl-droed Lloegr a’r Alban wedi cyhoeddi heddiw y byddan nhw’n anwybyddu gwaharddiad FIFA.

“Dysgu gwers” ers 2011

Ond cadw’n dawel y mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a hynny ar ôl “dysgu gwers” ers 2011, pan godwyd y ffrae ddiwetha’.

Cyn gêm olaf Gary Speed, yn erbyn Norwy, roedd y crysau cochion wedi dweud y byddan nhw’n parhau i wisgo’r pabi coch ar fand du am freichiau’r chwaraewyr, er gwaetha’ gwaharddiad FIFA ar y pryd.

Ond ar y munud olaf fe wnaeth y corff pêl-droed rhyngwladol wneud tro pedol ynglyn â gwahardd y pabi.

“Mae yna dros wythnos tan y gêm a phan gododd hyn ei ben yn 2011 fe dreulion ni’r holl wythnos yn trafod y peth dim ond i FIFA newid eu meddyliau ar yr unfed awr ar ddeg,” ychwanegodd Ian Gwyn Hughes, wrth sôn am gêm nesa’r tîm yn erbyn Serbia ar Dachwedd 12.  “Mi rydan ni wedi dysgu ein gwers.”