Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am gymorth y cyhoedd, wedi lladrad o siop Eurospar, Dolgellau rywbryd rhwng 10yh ddydd Iau, Hydref 27, a 5.50yb fore Gwener, Hydref 28.

Yn ystod y digwyddiad, fe gafodd nifer o gynhyrchion baco eu dwyn.

Mae’r heddlu, wrth ofyn am gymorth i ddod o hyd i’r lladron, wedi pwysleisio pa mor bwysig ydi hi i fusnesau fod â mesurau diogelwch digonol mewn lle er mwyn gwarchod eu hadeiladau yn ystod oriau’r nos.

“Rydan ni’n lwcus i fod yn byw ac yn gweithio mewn ardal lle mae lefel y troseddu’n isel,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu, “ond mae hynny’n wir oherwyd fod pobol a’r heddlu’n gweithio mewn partneriaeth.

“Rydan ni angen cymorth er mwyn osgoi’r math yma o bethau rhag digwydd.”