Bethan Jenkins, cadeirydd y Pwyllgor
Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol wedi lansio ymchwiliad i strategaeth iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru.

Y nod yw ceisio cyfrannu at strategaeth newydd, gan fod yr un bresennol yn dod i ben ar Mawrth 31, 2017, a dylanwadu arni yn ystod y cyfnod datblygu.

Wedi i’r Cynulliad gyhoeddi bwriad i gael miliwn o bobol i siarad Cymraeg erbyn 2050, mae cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn dweud bod angen troi’r strategaeth “o fod yn addewidion i weithredoedd”.

Daeth ymgynghoriad ar y strategaeth bresennol i ben ar Hydref 31, ac mae’r pwyllgor bellach yn gwahodd pobol i gyflwyno tystiolaeth i’r ymchwiliad newydd.

Dywedodd Bethan Jenkins AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei huchelgais i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yn ôl y Cyfrifiad diweddaraf yn 2011, roedd 562,000 o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, a nod y strategaeth yw bron dyblu nifer y siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif.

“Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gosod targed mor uchelgeisiol, sydd wedi cael ei groesawu o bob cyfeiriad. Os yw’r Llywodraeth am gyrraedd y targed hwn, mae angen gosod sylfeini cadarn ar unwaith er mwyn sicrhau bod gennym ddigon o bobl sy’n gallu addysgu ac ysbrydoli siaradwyr Cymraeg y dyfodol.

Dylai pob darn o dystiolaeth ddod i law erbyn dydd Mercher, Tachwedd 30, 2016.