Fe fydd gwasanaeth coffa yn cael ei gynnal i heddiw i wraig 57 oed o dre’ Gaernarfon a fu ar goll am bron i bum mis.

Fe fu teulu a ffrindiau Avril Whitfield yn holi’n ddyrys amdani ar wefannau cymdeithasol ac mewn papurau newydd, ac fe wnaeth yr heddlu gynnal sawl ymgyrch chwilio, wedi iddi ddiflannu o’i chartre’ fis Ebrill.

Ond ar Fedi 11, ar draeth Ynys Llanddwyn ym Môn, fe ddaeth aelod o’r cyhoedd o hyd i droed ddynol mewn esgid. Dydi Heddlu Gogledd Cymru ddim yn trin y farwolaeth fel un amheus.

Bydd gwasanaeth agored yn cael ei gynnal yn Eglwys Llanbeblig, Caernarfon am 1.30yp heddiw.