Y diweddar Mark Mason (Llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae pedwar o ddynion wedi cael eu cyhuddo o lofruddio Mark Mason o’r Rhyl ar 27 Hydref.

Fe fydd Anthony Francis Baines (30), Mark Ennis (30), Jake Melia (21) a James Davies (20) yn ymddangos gerbron ynadon yn Llandudno heddiw.

Cafwyd hyd i’r dyn 48 oed mewn maes parcio ar Marsh Road y dre’ ar ôl iddo gael ei drywanu.

Mae’r pedwar sydd wedi’u cyhuddo yn dod o Lerpwl.