Mae Plaid Cymru wedi condemnio’r penderfyniad gan Lywodraeth Cymru i dorri cyllid i gorff oedd yn hybu’r sector ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru.

Datgelwyd y penderfyniad mewn llythyr cwta, dwy frawddeg at CWVYS, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol, oedd yn dweud y buasai eu harian yn dod i ben fis Mawrth nesa’.

Dan gadeiryddiaeth y cyn-Gomisiynydd Plant, Keith Towler, mae CWVYS yn gorff elusennol annibynnol sydd yn hybu gwaith ieuenctid o safon ac sy’n cynrychioli buddiannau ei aelodaeth a’r sector yn ehangach.

“Fel rhywun sydd wedi gweithio’n agos gyda CWVYS dros flynyddoedd lawer, fe wn o brofiad ei fod wedi gwasanaethu llawer o fudiadau ieuenctid Cymru a’u cynrychioli, megis y Sgowtiaid, y Geidiaid, y Ffermwyr Ifanc, yr Urdd, Gwobr Dug Caeredin, ynghyd â mudiadau ieuenctid mwy lleol ym mhob cwr o Gymru,” meddai Llyr Gruffydd, llefarydd cysgodol Plaid Cymru dros addysg a phobol ifanc.

“Mae’n hynod siomedig gweld y Llywodraeth Lafur yn torri eu cyllid mor ddisymwth. Mae gwneud hynny heb esbonbiad ac mewn ffordd mor swta yn rhwbio halen ar y briw.

“Mae’n siomedig hefyd na fu’r Llywodraeth yn ddigon cwrtais i aros am adroddiad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad i wasanaethau ieuenctid yng Nghymru cyn dod i benderfyniad.”