Mae criw o bobol leol ym Mhowys wedi llwyddo i selio dêl a phrynu hen dafarn rhyngddyn nhw mewn menter gymunedol.

Daw hyn wedi mwy na blwyddyn a hanner o ymgyrchu yn dilyn pryder fod tafarn The Corn Exchange yng nghanol tref Crughywel am gael ei werthu a’i droi’n siopau cadwyn.

Brynhawn ddoe, llwyddodd y grŵp sy’n galw eu hunain yn ‘Corn Exchange Crughywel Cyf’ i brynu’r adeilad am £307,000.

Roedden nhw wedi codi mwy na £500,000 gan hanner cant o gyfranddalwyr, a bydd yr arian ychwanegol yn mynd at gostau adnewyddu.

Fflatiau a siopau ‘i bobol leol’

Mae’r hen dafarn yn adeilad rhestredig gradd dau, ond llwyddodd y grŵp i gael caniatâd cynllunio arno fis diwethaf a arweiniodd at benderfyniad y perchnogwyr, Punch Taverns, i’w werthu.

Bwriad y grŵp yn awr yw ei adnewyddu a’i addasu’n fflatiau ac yn siopau i bobol a masnachwyr lleol erbyn hydref 2017.

“Mae wedi bod yn ymdrech enfawr, ond mae’r cyfan werth e,” meddai Tim Jones, un o aelodau’r grŵp wrth golwg360.

“Dw i’n eistedd tu allan iddi nawr ac ar ôl 19 mis o ymgyrchu caled mae mor braf gweld baner newydd arni yn dweud ‘dan berchnogaeth newydd’.”

“Angen gwneud mwy na gwrthwynebu…”

Esboniodd Tim Jones ymhellach fod y grŵp am osod cymal yn y polisi tenantiaeth yn dweud na all siopau cadwyn ddod yno oni bai bod yr holl gyfranddalwyr yn cytuno ar hynny.

“Rydym am ei gadw yn nwylo’r bobol leol, a’r un peth gyda’r fflatiau hefyd, mae yna brinder fflatiau i bobol leol yng Nghrughywel.”

A’i neges i gymunedau eraill sy’n ystyried herio datblygiadau o’r fath – “mae’n hollol bosib i’w wneud e, ond mae’n rhaid i’r gymuned gyfan ddod at ei gilydd gan adnabod sgiliau ac arbenigedd bobol wahanol…

“Mae angen gwneud mwy na gwrthwynebu hefyd, mae angen cynnig datrysiad.”