Gruff Rhys
Mae merch o Ohio yn yr Unol Daleithiau yn codi arian er mwyn teithio i Gymru ar ôl i ganeuon Gruff Rhys greu cymaint o argraff arni nes ei denu i ddysgu Cymraeg dros y we.

Erbyn hyn mae Geordan Burress, sy’n wreiddiol o Cleveland, yn rhugl yn y Gymraeg ac wedi cael ei henwebu ddwywaith ar gyfer cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae hi wedi gwneud ei marc yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwetha’ gyda’i chariad amlwg tuag at yr iaith, gan ymddangos ar wefannau newyddion a chylchgronau. Yn sgil hynny, mae hi wedi llwyddo i godi $370 ychydig o oriau ar ôl creu tudalen godi arian ar y we.

Egin y diddordeb

Dechreuodd fagu diddordeb yn y Gymraeg bum mlynedd yn ôl ar ôl gwrando ar albym Gruff Rhys, gynt o’r Super Furry Animals, ac ar ôl hynny fe fuodd hi’n dysgu dros y we hefo gwefan SaySomethingInWelsh.

“Rwyf wrth fy modd cael bod yn rhan o gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn. Ond yn fwy na hynny, mi faswn i mor falch o’r cyfle i deithio i’r wlad brydferth hon ar ôl breuddwydio cyn hired am fynd yno.

“Mae’r cysylltiadau dw i wedi eu gwneud hefo gymaint o bobol Gymreig a’r caredigrwydd maen nhw wedi’i ddangos tuag ata i wedi creu argraff enfawr ar fy mywyd”, meddai.

Mae hi’n codi arian yma: https://www.gofundme.com/help-geordan-get-to-wales