Mae deiseb wedi’i chyflwyno gyda dros 750 o enwau arni gan bobol sy’n gwrthwynebu penderfyniad Llywodraeth Cymru i eithrio gwasanaethau gofal sylfaenol o unrhyw ddyletswydd i ddarparu gwasanaeth Cymraeg.

Noda rheoliadau drafft y Llywodraeth na fyddai hawliau i’r Gymraeg gan y cyhoedd wrth ymweld â’u  meddygfa, canolfan ddeintydd neu fferyllfa, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.

Cafodd deiseb ei chyflwyno i Mike Hedges AC, Cadeirydd Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad gan alw am “sicrhau bod gan bobol hawliau cadarn a chyflawn yn y maes hollbwysig hwn.”

Wedi i swyddogion y mudiad gyflwyno’r ddeiseb, dywedodd Manon Elin, Cadeirydd grŵp hawl Cymdeithas yr Iaith:

“Mae pobl yn defnyddio’r gwasanaeth iechyd pan maent ar eu mwyaf bregus, felly mae’n hanfodol bwysig eu bod yn medru cyfathrebu yn yr iaith maent yn teimlo’n fwyaf cyfforddus yn ei siarad.

“Gobeithio y bydd y ddeiseb hon yn golygu y bydd Aelodau Cynulliad yn sicrhau bod gan bobl yr hawl i’r gwasanaethau hanfodol bwysig hyn yn Gymraeg”.

Adroddiad Comisiynydd y Gymraeg

Mae’r ddeiseb yn eilio barn Comisiynydd y Gymraeg yn ei hadroddiad cyntaf am ddiffyg darpariaeth Gymraeg mewn meddygfeydd a gwasanaethau gofal sylfaenol eraill yn 2014.

Meddai Meri Huws bryd hynny: “Rwyf wedi fy mrawychu o glywed rhai profiadau dirdynnol siaradwyr Cymraeg ac aelodau o’u teuluoedd o fethu â chael gwasanaeth iechyd addas i’w hanghenion.

“Gan mai gofal sylfaenol yw cyswllt cyntaf mwyafrif aelodau’r cyhoedd gyda’r gwasanaeth iechyd, … [mae’n] hanfodol sicrhau cysondeb ymddygiad ieithyddol ar draws y gwasanaeth iechyd …”