Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi arestio pedwerydd person mewn cysylltiad â llofruddiaeth dyn yn Y Rhyl.

Bu farw Mark Mason, 48, o’r Rhyl yn dilyn digwyddiad mewn maes parcio yn Ffordd Marsh yn y dref tua 7.24yh nos Iau, 27 Hydref.

Cafodd y person diweddaraf ei arestio y tu allan i ardal gogledd Cymru ac mae tri o bobl a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â’r llofruddiaeth ddydd Sul yn parhau i gael eu holi.

Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth dystion i’r digwyddiad a oedd yn yr ardal ar y pryd.

Dywed yr heddlu bod yr ymosodiad ar Mark Mason wedi digwydd yn ei fan Renault Kangoo wen, gyda’r rhif cofrestru X213 HHN.  Roedd wedi cael ei ddilyn ar hyd Ffordd Las gan gerbyd BMW du, ac yna i faes parcio Home Bargains.

Cafodd y rhai oedd yn teithio yn y BMW eu gweld yn dod allan o’r cerbyd du ac ymosod arno cyn gyrru i ffwrdd.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu’r Gogledd ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod U163736.