Pabïau Castell Caernarfon (Llun: 1418 Now)
Mae bron i 40,000 o bobol wedi ymweld â Chastell Caernarfon i weld arddangosfa Poppies: Weeping Window mewn cyfnod o bythefnos.

Dyma ymweliad cynta’ yr arddangosfa, gan yr artist Paul Cummins a’r cynllunydd Tom Piper, i Gymru fel rhan o daith ledled gwledydd Prydain sydd wedi’i threfnu i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ers iddi agor ar Hydref 11, mae 38,256 o bobol wedi ymweld â’r arddangosfa hyd at Hydref 23.

Cafodd yr arddangosfa ei gosod yn wreiddiol yn Nhŵr Llundain rhwng mis Awst a mis Tachwedd 2014 ac roedd 888,246 o babïau yn rhan o’r arddangosfa honno, un i anrhydeddu pob person o Brydain a’r Gwladfeydd a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

,Mae modd gweld yr arddangosfa o fewn muriau Castell Caernarfon bob dydd hyd tan Dachwedd 20.